Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mai 2012
Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried Bil Sgorio Hylendid Bwyd
(Cymru)
1. Ar 28 Mai 2012, cafodd Bil Llywodraeth, ‘Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)’, ei gyflwyno yn y Cynulliad.
2. Ar 15 Mai 2012, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.
3. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, trefnodd y Pwyllgor Busnes amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 16 Hydref 2012.
4. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 23
Tachwedd 2012, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion
cyffredinol y Bil.